|
Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus |
|
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
|
||||
|
Dyddiad: |
Dydd Llun, 12 Tachwedd 2012 |
|
|||
|
|
|
||||
|
Amser: |
14:00 - 16:30 |
|
|||
|
|
|
||||
|
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Darren Millar (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Mike Hedges Julie Morgan Gwyn R Price Jenny Rathbone Aled Roberts Jocelyn Davies |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Tystion: |
|
David Sissling, Director General for Health and Social Services, Llywodraeth Cymru Dr Jean White, Llywodraeth Cymru Claire Foster, All Wales Maternity Services Implementation Group Kath McGrath, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Paul Roberts, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg Allison Williams, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Staff y Pwyllgor: |
|
|
|||
|
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.2 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod.
2. Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru - Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a Chyd-Gadeiryddion Grŵp Gweithredu Gwasanaethau Mamolaeth Cymru Gyfan
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru a Chyd-Gadeiryddion Grŵp Gweithredu Gwasanaethau Mamolaeth Cymru Gyfan. Yn benodol, bu'r Aelodau'n holi'r tystion ynghylch:
· Y fframwaith strategol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru
· Lefelau staffio a hyfforddiant ar gyfer staff
· Y ddarpariaeth o wasanaethau newyddenedigol
· Cyfraddau toriadau Cesaraidd
· Adolygiad o'r rhaglen bwydo ar y fron yng Nghymru
Cam Gweithredu:
2.2 Cytunodd Llywodraeth Cymru a Chyd-Gadeiryddion Grŵp Gweithredu Gwasanaethau Mamolaeth Cymru Gyfan i ddarparu:
· Rhagor o wybodaeth am sut y mesurir a yw rhieni yn hyderus a gwybodus, ar ôl trafodaethau priodol;
· Data sy'n amlinellu nifer yr ymarferwyr y mae angen iddynt ddefnyddio dull hyfforddi Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr;
· Rhagor o wybodaeth am recriwtio neonatolegyddion yng Nghymru gan gynnwys manylion am y camau a gymerir i fynd i'r afael â'r gostyngiad yn nifer y neonatolegyddion;
· Linc i waith ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y berthynas rhwng cyfraddau BMI, beichiogrwydd a thoriadau Cesaraidd;
· Rhagor o wybodaeth am nifer y staff asiantaeth a ddefnyddir ym maes bydwreigiaeth;
· Amserlen ar gyfer cyflwyno offer electronig i fonitro cyflymder calon y ffetws ar gyfer gwahanol Fyrddau Iechyd Lleol;
· Rhagor o wybodaeth am y cynnydd a wnaed gan Fyrddau Iechyd Lleol o ran gweithredu'r pecyn cymorth ar doriadau Cesaraidd.
3. Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru - Tystiolaeth gan Fyrddau Iechyd Lleol
6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Bro Morgannwg. Yn benodol, bu'r Aelodau'n holi'r tystion ynghylch:
· Y fframwaith strategol ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru;
· Lefelau staffio a hyfforddiant ar gyfer staff;
· Y ddarpariaeth o wasanaethau gofal newyddenedigol;
· Bwydo ar y fron; a
· Cyfraddau toriadau Cesaraidd
Cam Gweithredu:
Cytunodd Bwrdd Iechyd Cwm Taf i ddarparu:
· Eglurhad am y gyfradd bresennol ar gyfer pryd y mae menywod yn dod i gysylltiad am y tro cyntaf â swyddog meddygol proffesiynol (boed yn feddyg teulu neu'n fydwraig) cyn eu degfed wythnos o feichiogrwydd.
· Gwybodaeth am y broses o werthuso'r arbrawf ar gyd-leoli unedau esgor risg isel ac uchel.
· Gwybodaeth am eu cyfraddau toriadau Cesaraidd o fis i fis.
Cytunodd Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i ddarparu:
· Gwybodaeth am eu cyfraddau toriadau Cesaraidd o fis i fis.
· Gwybodaeth am ei sefyllfa o ran darparu'r lefelau staffio a argymhellir ar gyfer staff meddygol a nyrsys, a chyrraedd y gymhareb 90:10 o staff cymwysedig ac anghymwys.
· Gwybodaeth am ddatblygu grwpiau cymorth i gymheiriaid.
4. Papurau i'w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor:
· Gofnodion y cyfarfod blaenorol; a
· Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am faterion sy'n codi o lythyr y Gweinidog Cyllid ynghylch y Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) (Papur 2).
5. Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
Eitem 7:
6. Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru - Aelodau yn trafod y dystiolaeth
7.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y prif faterion a themâu sy'n codi o'r dystiolaeth a gafwyd mewn perthynas â Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru.
7.2 Cytunodd y Pwyllgor i gyflwyno adroddiad ar ei ymchwiliad byr i Wasanaethau Mamolaeth yng Nghymru.